Amdanom ni
Mae’r platfform hwn yn cael ei bweru gan #TîmCGGSDd, a’r bobl wych sy’n gwirfoddoli ledled y sir
PWY YDYM NI
Elusen wedi’i seilio ar aelodaeth ydi Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd). Dechreuodd weithredu ym mis Ebrill 1996 a bellach rydym yn ein trydedd degawd.
Gyda’ch cefnogaeth barhaus chi rydym ni’n gobeithio bod yn nodwedd yn nhirlun Sir Ddinbych a chefnogi cenedlaethau’r dyfodol yn y blynyddoedd i ddod.
Ein cenhadaeth yw
-
Adeiladu cymunedau cydnerth trwy weithredu gwirfoddol a mentrau cymdeithasol
-
Darparu cymorth rhagorol i’n haelodau
-
Bod yn llais dylanwadol yn Sir Ddinbych a Gogledd Cymru


LLE RYDYM NI
Ein lleoliad yn Rhuthun yw’r canolbwynt ar gyfer hyrwyddo gwirfoddoli a gweithredu gwirfoddol yn Sir Ddinbych.
Rydym ni’n gweithio trwy’r sir gyfan, gyda chefnogaeth digwyddiadau allgymorth, ein hwb digidol, ac ymgyrchoedd ymgysylltu cyhoeddus parhaus.
Fel y corff arweinyddiaeth ar gyfer #GwirfoddolwyrSirDdinbych rydym ni’n cydweithio gyda’n partneriaid yn Cefnogi Trydydd Sector Cymru i ysbrydoli gweithredu gwirfoddol ledled Cymru.

BETH RYDYM NI’N EI WNEUD I GEFNOGI GWIRFODDOLI YN Y SIR
Mae ein Hwb Gwirfoddoli yn hyrwyddo ac yn cyfoethogi llesiant unigol a chymunedol trwy weithredu gwirfoddol.
Mae gennym ni chwech swyddogaeth graidd:
-
Hyrwyddo a dathlu gwirfoddoli
-
Datblygu arferion da trwy gyfleoedd rhwydweithio, dysgu a hyfforddiant
-
Datblygu cyfleoedd gwirfoddoli
-
Broceriaeth
-
Datblygiad strategol gwirfoddoli trwy bartneriaethau a chydweithredu
-
Polisi ac ymgyrchu
Rydym ni’n grymuso pobl a chymunedau trwy rannu adnoddau, a darparu cymorth ymarferol i wirfoddolwyr, y trydydd sector a sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr yn y sir.

YMAELODWCH GYDA NI
Darperir y wefan hon a’i hadnoddau i chi gan CGGSDd fel rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
-
Edrychwch ar ein gwefan gorfforaethol i ganfod rhagor amdanon ni a’r hyn rydym ni’n ei wneud
-
Os ydych chi’n hoffi’r hyn rydym ni’n ei wneud, ymaelodwch gyda ni!
-
Cefnogwch ein gweithgareddau ymgyrchu
-
Tanysgrifiwch neu ddilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod y diweddaraf am ein gweithgareddau
