
Mae Rhwydwaith Trydydd Sector #GwirfoddolwyrSirDdinbych yn agored i bob mudiad trydydd sector, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol sy’n gweithredu’n Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr sy’n rhan o’r mudiadau hyn.
Mae’r Rhwydwaith yn hwyluso mentrau i wella cynnwys gwirfoddolwyr yn Sir Ddinbych ac i gryfhau’r farchnad #GwirfoddolwyrSirDdinbych.
Mae’r trafodaethau’n canolbwyntio ar feysydd allweddol, megis cynyddu’r gronfa gwirfoddolwyr, sefydlu arfer dda o ran cynnwys gwirfoddolwyr a chynyddu proffil gwirfoddoli a’r trydydd sector ymhlith rhanddeiliaid allweddol. Rydym ni hefyd yn defnyddio’r Rhwydwaith i gynhyrchu syniadau am themâu ymgyrchoedd i gryfhau llais #GwirfoddolwyrSirDdinbych trwy’r sir a thu hwnt.
Cewch weld:
Nid oes angen i chi fod yn aelod o CGGSDd i gymryd rhan yn y rhwydwaith, a lleisio eich barn, ond byddem wrth ein bodd petaech chi’n ymaelodi gyda ni.
Mae’r Rhwydwaith yn cyfarfod yn chwarterol yng Nghanolfan Naylor Leyland, Stryd y Ffynnon, Rhuthun, LL15 1AF, rhwng 10am a 11:30am. Os hoffech drefnu eich lle yng nghyfarfod nesaf y Rhwydwaith, cliciwch yma, os gwelwch yn dda.
Os ydych chi’n Bartner ac yn dymuno ymgysylltu gyda CGGSDd a’i aelodau i gael adborth am fater neu wasanaeth penodol, mae croeso i chi gysylltu gyda ni trwy anfon neges e-bost i engagement@dvsc.co.uk. Lle bo’n bosibl byddwn yn hwyluso ceisiadau gan bartneriaid trwy drefnu’r eitemau agenda perthnasol mewn Sesiwn Agored ar ddechrau’r cyfarfod. Caiff Partneriaid ddod i’r Sesiwn Agored yn unig.
Os hoffech drefnu eich lle yn y cyfarfod nesaf, cliciwch yma, os gwelwch yn dda.
Syniadau ar gyfer Eitemau Agenda yn y Dyfodol?
Os hoffech chi rannu unrhyw syniadau ar gyfer eitemau agenda yn y dyfodol, llenwch y ffurflen gyswllt isod.