Digwyddiadau a gweithreddau
Rydym ni’n cynnal gweithgareddau yn ein canolfan yn Rhuthun ac yn cynnal digwyddiadau allgymorth ar draws y sir.
DRYSAU AGORED
Clwb dan arweiniad gwirfoddolwyr yw Drysau Agored i ddatblygu sgiliau a chyfarfod pobl newydd. Mae’n cael ei arwain gan wirfoddolwyr ac mae ein drysau’n agored i bawb.
-
Cynhelir Drysau Agored bob dydd Gwener, 1-3pm, yn ein Canolfan Gwirfoddolwyr yng Nghanolfan Naylor Leyland, Stryd y Ffynnon, Rhuthun, LL15 1AF
-
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth

RHWYDWAITH TRYDYDD SECTOR #GWIRFODDOLWYRSIRDDINBYCH
Mae Rhwydwaith Trydydd Sector #GwirfoddolwyrSirDdinbych yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn yng Nghanolfan Naylor Leyland, Stryd y Ffynnon, Rhuthun, LL15 1AF, rhwng 10am a 11:30am.
Mae’r Rhwydwaith yn agored i bob mudiad trydydd sector, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol sy’n gweithredu yn Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr sy’n ymwneud â’r mudiadau hyn.
Does dim rhaid i chi fod yn aelod o CGGSDd i gymryd rhan a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, ond byddem ni wrth ein boddau petaech chi’n ymaelodi gyda ni
-
Cofrestrwch i fod yn bresennol yn y cyfarfod nesaf yma
-
Mae cylch gwaith y rhwydwaith i’w gweld yma
-
Mae’r agendâu yma
-
Mae’r diweddariadau yn dilyn y cyfarfodydd i’w gweld yma

WYTHNOS GWIRFODDOLWYR
Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn amser i ddweud diolch yn fawr iawn am y cyfraniad gwych mae gwirfoddolwyr yn ei wneud. Fe’i cynhelir rhwng 1 a 7 Mehefin bob blwyddyn.
Mae cannoedd o ddigwyddiadau a dathliadau’n cael eu cynnal ar draws y wlad yn ystod yr wythnos, i ddweud diolch yn fawr iawn wrth wirfoddolwyr a chydnabod eu cyfraniad amrywiol ac amhrisiadwy yn y Deyrnas Unedig.
-
Mae archif datganiadau i’r wasg dathliadau Wythnos Gwirfoddolwyr blaenorol i’w weld yma
-
Mae’r amserlen gweithgareddau o’n dathliadau Wythnos Gwirfoddolwyr diwethaf i’w gweld yma
-
Os oes gennych chi syniad ar gyfer gweithgaredd ar gyfer y dathliadau Wythnos Gwirfoddolwyr nesaf cysylltwch gyda ni yn engagement@dvsc.co.uk neu llenwch y ffurflen ar waelod y dudalen

WYTHNOS YMDDIRIEDOLWYR
Mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir ym mis Tachwedd bob blwyddyn i ganmol y gwaith rhagorol mae Ymddiriedolwyr yn ei wneud a thynnu sylw at y cyfleoedd i bobl o bob cefndir i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.
Mae CGGSDd yn cynnal ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau trwy gydol yr wythnos
-
Mae archif datganiadau i’r wasg Wythnos Ymddiriedolwyr blaenorol i’w weld yma
-
Mae’r amserlen gweithgareddau Wythnos Ymddiriedolwyr fwyaf diweddar i’w gweld yma
-
Mae straeon Ymddiriedolwyr Sir Ddinbych ar gael yma
Os oes gennych chi syniad ar gyfer gweithgaredd ar gyfer yr Wythnos Ymddiriedolwyr nesaf cysylltwch gyda ni yn engagement@dvsc.co.uk neu llenwch y ffurflen ar waelod y dudalen

GWEITHGAREDDAU A DIGWYDDIADAU ERAILL
Mae CGGSDd yn cynnal ac yn cydlynu amrediad eang o weithgareddau yn cynnwys digwyddiadau allgymorth, gweithdai, cyfarfodydd rhwydwaith a sesiynau hyfforddiant
Syniadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol?
Os oes gennych chi awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau yn y dyfodol, llenwch y ffurflen gysylltu isod os gwelwch yn dda
