Drysau Agored
Galwch heibio Canolfan Naylor Leyland yng nghanol Rhuthun a chyfarfod pobl newydd
BETH YDI DRYSAU AGORED?
Clwb dan arweiniad gwirfoddolwyr yw Drysau Agored i ddatblygu sgiliau a chyfarfod pobl newydd. Mae’n cael ei arwain gan wirfoddolwyr ac mae ein drysau’n agored i bawb.
PRYD A LLE MAE’N CAEL EI GYNNAL?
Cynhelir Drysau Agored bob dydd Gwener, 1-3pm, yng Nghanolfan Naylor Leyland, Stryd y Ffynnon, Rhuthun, LL15 1AF
Does dim ffi ac mae ein drysau’n agored i bawb.
SUT FEDR DRYSAU AGORED FY HELPU I?
Os ydych chi eisiau cwmni, cymorth neu arweiniad neu efallai dim ond paned a sgwrs, yna mae croeso i chi alw i mewn a dweud helo wrth ein tîm cyfeillgar.
Rydym ni’n cynnig cyngor a chefnogaeth i ddod o hyd i leoliadau gwirfoddoli ac yn dararu gwybodaeth am gyfleoedd dysgu sydd ar gael yn eich cymuned leol.
Mae Drysau Agored yn Leoliad Llesiant hefyd; lle cymunedol lle gall unigolion ddod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd a gwella eu llesiant eu hunain a llesiant pobl eraill, a chael gafael ar gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol.
Mae hefyd yn lle i ddod ynghyd ar brynhawn Gwener a chael hwyl!
SUT FEDRA I HELPU DRYSAU AGORED?
A oes gennych chi sgil, diddordeb neu grefft yr hoffech chi ei rannu? P’un ai yw’n ddawnsio Salsa, cerfio pren neu wau, medrwn ddarparu’r lle a’r cyfle i chi arddangos hyn. Beth am rannu eich sgiliau, gwybodaeth a’r profiadau bywyd gydag eraill?
SUT WNAETH O DDECHRAU?
Dechreuodd Drysau Agored fel Clwb Swyddig yn cefnogi ein prosiect Cynhwysiant Gweithredol Cyflogadwyedd yn 2016. Mae wedi tyfu ers hynny i gynnwys amrediad eang o weithgareddau; darparu cymorth i bobl fynd ar-lein, chwilio am swyddi a dysgu sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r sesiynau’n cael eu siapio gan y bobl sy’n cerdded trwy’n drysau ac mae ein gwirfoddolwyr Drysau Agored, fel Wayne a Lavinia, sy’n arwain sesiynau ac yn ysbrydoli eraill, yn croesawu pawb.
Darllenwch eu straeon yma.
TECHNOLEG YN CODI BRAW ARNOCH CHI?
Nid chi yw’r unig un! Medrwn ni eich helpu i fynd ar-lein. Mae gliniaduron a dyfeisiau llechen ar gael i chi eu defnyddio neu mae croeso i chi ddod â’ch ffôn clyfar/dyfais eich hun.
Gall ein gwirfoddolwyr cyfeillgar a sgiliedig roi arweiniad i chi sut i’w defnyddio nhw, a cewch rannu cynghorion gydag eraill.
Rydym ni’n cynnal sesiynau hyfforddiant AM DDIM o dro i dro hefyd. Tanysgrifiwch ar gyfer diweddariadau newyddio a chadwch olwg ar yr amserlen gweithgareddau i weld beth sy’n digwydd.



Syniadau ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol?
Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau, llenwch y ffurflen gysylltu isod os gwelwch yn dda. Ac os oes gennych chi sgil neu ddiddordeb a’ch bod chi’n fodlon gwirfoddoli, gadewch i ni wybod am hynny hefyd!