- dvsc1234
Stori Gwirfoddolwr - Lavinia
Clwb Drysau Agored CGGSDd: Pan wnes i ymweld â CGGSDd gyntaf doedd gen i ddim hyder o gwbl. Roeddwn i’n fam, yn ofalwr ac yn wraig, ac wedi colli fi yn rhywle.
Ar ôl cofrestru ar gyfer “Cynhwysiant Gweithredol” cefais fynd ar nifer o gyrsiau, am ddim, i gynorthwyo gyda fy niffyg hyder. Ar ôl cwblhau’r cwrs Diogelu gofynnwyd i mi a fyddwn i’n hoffi cynorthwyo i gynnal y Clwb Drysau Agored yng Nghanolfan Naylor Leyland. Cytunais i wneud hynny, a dyna’r penderfyniad gorau wnes i.
Mae gen i gyd-wirfoddolwr gwych a oedd gyda mi ar y cwrs - Wayne Trestain. Gwnaeth y ddau ohonom ni benderfynu ar y dechrau na fyddai’n le gor-ddifrifol a’n bod am sicrhau awyrgylch cyfeillgar i bawb.
Trwy wirfoddoli rydw i bellach yn unigolyn hyderus a llawer cryfach. Rydw i wedi dysgu llawer o sgiliau y gallaf eu rhannu gydag eraill. Fuaswn i ddim yn oedi cyn argymell gwirfoddoli i unrhyw un; rydw i wrth fy modd yn gwirfoddoli.