
Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn adeg i ddweud diolch yn fawr iawn am y cyfraniad gwych mae gwirfoddolwyr yn ei wneud. Mae’n cael ei gynnal yn flynyddol rhwng 1 a 7 Mehefin bob blwyddyn.
Mae cannoedd o ddigwyddiadau a dathliadau’n digwydd ar draws y wlad yn ystod yr wythnos, yn dweud diolch yn fawr iawn wrth wirfoddolwyr ac yn cydnabod eu cyfraniad amhrisiadwy ac amrywiol i’r Deyrnas Unedig.
Cliciwch ar y botymau isod i weld ein hamserlen gweithgareddau o’n dathliadau Wythnos Gwirfoddolwyr diwethaf a darllen ein Straeon Gwirfoddolwyr hefyd.
Byddem wrth ein bodd i chi gymryd rhan, felly os oes gennych chi syniad am weithgaredd yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr y flwyddyn nesaf cysylltwch gyda ni - engagement@dvsc.co.uk
Cewch ddarllen straeon #GwirfoddolwyrSirDdinbych yma
Er mwyn gweld archif Wythnosau Gwirfoddolwyr blaenorol, cliciwch yma, os gwelwch yn dda.
Syniadau ar gyfer Gweithgareddau yn y Dyfodol?
Os hoffech rannu unrhyw syniadau ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol cwblhewch y ffurflen gyswllt isod.